2011 Rhif 2378 (Cy.251)

Anifeiliaid, cymru

Rheoliadau’r Cynllun Iechyd Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn gosod y ffioedd am gymeradwyaethau at ddibenion y cynllun iechyd dofednod a sefydlwyd o dan Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC ar 30 Tachwedd 2009 ar amodau iechyd anifeiliaid, sy’n llywodraethu’r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd (OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t. 74) a Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011.

Ni pharatowyd asesiad effaith rheoleiddiol ar gyfer yr offeryn hwn, oherwydd na ragwelir unrhyw effaith newydd ar y sectorau preifat, gwirfoddol na chyhoeddus.


2011 Rhif  2378 (Cy.251)

Anifeiliaid, cymru

Rheoliadau’r Cynllun Iechyd Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2011

Gwnaed                                   28 Medi 2011

Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru       28 Medi 2011

Yn dod i rym                          19 Hydref 2011

Mae Gweinidogion Cymru, gyda chydsyniad y Trysorlys, yn gwneud y Rheoliadau hyn drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973([1]) ac a freinir bellach ynddynt hwy.

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Cynllun Iechyd Dofednod (Ffioedd) (Cymru) 2011. Maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 19 Hydref 2011.

Ffioedd mewn perthynas â’r cynllun iechyd dofednod

2.(1)(1) Y ffi am gymeradwyaeth at ddibenion y cynllun iechyd dofednod a sefydlwyd o dan baragraff 4 o Atodlen 2 i  Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011([2]) yw £60 am gymeradwyaeth ddechreuol, ynghyd â ffi flynyddol o—

(a)     £62 ar gyfer haid neu ddeorfa; neu

(b)     £70 ar gyfer cyfuniad o haid a deorfa ar un safle.

(2) Os cyflawnir yr arolygiad blynyddol o dan y paragraff hwnnw gan swyddog Gweinidogion Cymru, y ffi am bob arolygiad (yn ychwanegol at y ffi flynyddol) yw—

(a)     £97 ar gyfer haid neu ddeorfa; neu

(b)     £143 ar gyfer cyfuniad o haid a deorfa ar un safle.

(3) Y ffi am gymeradwyo, o dan y paragraff hwnnw, labordy sy’n cynnal profion diagnostig ar gyfer aelodau o’r cynllun iechyd dofednod yw—

(a)     £13 am brosesu cais am gymeradwyaeth; a

(b)     £31 am brosesu dogfennaeth gofrestru flynyddol.

Ffi am brofi hyfedredd labordy

3. Mae’r ffi sy’n daladwy gan labordy cymeradwy am y profion hyfedredd canlynol a gynhelir gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a'r Labordai Milfeddygol o dan baragraff 2 o Atodiad I i Gyfarwyddeb y Cyngor 2009/158/EC (ar amodau iechyd anifeiliaid, sy’n llywodraethu’r fasnach mewn dofednod ac wyau deor o fewn y Gymuned, a mewnforion dofednod ac wyau deor o drydydd gwledydd([3])) fel a ganlyn.

Tabl 1

Prawf hyfedredd

Ffi(£)

Bacterioleg Salmonella (pullorum, gallinarum, arizonae)

131

Seroleg Salmonella (pullorum, gallinarum)

336

Seroleg ieir Mycoplasma (gallisepticum)

336

Meithriniad Mycoplasma (gallisepticum a meleagridis)

281

Seroleg tyrcïod Mycoplasma (gallisepticum a meleagridis)

336

 

Amser talu

4. Mae’r ffioedd yn daladwy i Weinidogion Cymru pan ofynnir am y tâl.

 

John Griffiths

Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy,

un o Weinidogion Cymru

 

28 Medi 2011



([1])           1973 p.51. Caiff Gweinidogion Cymru arfer y pŵer hwn yn rhinwedd adran 59(5) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32).

([2])           O.S. 2011/2379 (Cy. 252).

([3])           OJ Rhif L 343, 22.12.2009, t. 74.